
Mae gan bawb gân i’w chanu ac mae pawb yn haeddu’r cyfle i ddarganfod a rhannu eu cân
Grŵp cerddorol sy’n cynnig dolen gyswllt bwysig yn y cyfnod clo yn gobeithio am boblogrwydd cyfryngau cymdeithasol
https://youtu.be/nEa1Novc0Po Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth. Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â...
Canfod y Gân
YN TRAWSNEWID BYWYDAU DRWY GERDDORIAETH
Gwella iechyd meddwl
Cysylltu â’n gilydd
Gwella llesiant
Cyfathrebu drwy gerddoriaeth
Cysylltu â'r gymuned
Newid ymagwedd tuag at anabledd
Dewch ynghyd mewn grŵp integredig cerddorol i oedolion 16+ gydag anableddau dysgu ac oedolion heb anableddau dysgu i berfformio, byrfyfyrio, creu a chymdeithasu.
Bachwch ar y cyfle i ddatblygu eich sgiliau cerddorol drwy gydweithio a chyfathrebu drwy gerddoriaeth gyda cherddorion a chyd-aelodau’r grŵp.