Cerddorion

Ymunwch â ni! Gwnewch wahaniaeth!

Hoffem glywed gan unigolion sydd â :

  • sgiliau cerddorol cadarn e.e perfformio, byrfyfyrio, cyfansoddi, cyfansoddi caneuon.
  • y gallu i hwyluso a chydlynu perthnasau drwy gerddoriaeth o fewn y grwp.
  • Y gallu i hwyluso taith gerddorol unigolion i ganfod eu llais cerddorol, a’r gallu i fynegi eu hunain a chael gwrandawiad.
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf fyddai’n sicrhau profiad positif i aelodau’r grŵp, ac yn cyfrannu tuag at yr elfen gymdeithasol sy’n hollbwysig i’r aelodau.
  • Y gallu i arwain a/neu gydweithio yn ddwyieithog.
  • Ymwybyddiaeth o ddiogelu a darparu awyrgylch cadarnhaol a chefnogol.

Cynnigir cyfleoedd i gerddorion dderbyn hyfforddiant a chael eu mentora ym maes cynnal sesiynau cerddoriaeth integredig a’u cefnogi fel rhan o bŵl o gerddorion ar draws Gogledd Cymru fydd yn darparu amrywiaeth eang o brofiadau cerddorol er  budd unigolion a grwpiau o fewn y gymuned.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect, anfonwch CV ynghyd ag ebost yn nodi :

  • Os oes gennych ddiddordeb yn rôl arweinydd cerddorol neu gerddor arbennigol achlysurol, a’ch sgilau penodol.
  • Eich profiadau perthnasol
  • Enw a manylion cyswllt dau ganolwr.

Gyrrwch eich datganiadau o ddiddordeb at Seren Hâf Jones – seren@cgwm.org.uk

Gan bod y prosiect yma yn cynnwys gweithio yn rheolaidd gydag oedolion bregus ac unigolion dan 18 oed bydd angen gwiriad DBS boddhaol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Meinir Llwyd Roberts neu Seren Hâf Jones ar 01286 685230.