Gwirfoddoli

Dewch i wirfoddoli!

Rydym angen gwirfoddolwyr brwdfrydig i gefnogi prosiect fydd yn trawsnewid bywydau drwy gerddoriaeth.

Fedrwch chi helpu eraill i gyrraedd eu gwir botensial drwy gerddoriaeth?

Fedrwch chi gefnogi ac annog eraill mewn grŵp integredig fydd yn cydweithio ag eraill a cherddorion arbenigol?

Ydych chi’n mwynhau cymdeithasu gydag eraill drwy gerddoriaeth?

Drwy wirfoddoli gyda’r prosiect cewch gyfle i:

  • Ddatblygu a meithrin perthnasoedd positif.
  • Creu partneriaethau positif yn y gymuned.
  • Cefnogi eraill i gyrraedd eu potensial a gwella llesiant.
  • Gwella eich cyflogadwyedd drwy dderbyn profiadau buddiol a hyfforddiant defnyddiol.

Gellir gwirfoddoli mewn nifer o ffyrdd:

  • Cefnogi ac annog aelodau’r grŵp i berfformio, creu, a byrfyfyrio.
  • Paratoi lluniaeth ar gyfer cyfnod cymdeithasu’r grŵp
  • Cynorthwyo hefo marchnata, hyrwyddo’r prosiect, drefnu neu ddigwyddiadau arbennig neu gyngherddau.
  • Cynorthwyo yn ystod cyngherddau/wyliau arbennig bydd y grŵp yn cymryd rhan ynddynt.

Fedrwch chi ein helpu ni? Fedrwch chi wneud gwahaniaeth?

Am rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda phrosiect Canfod y Gân lawrlwythwch ein Llawlyfr Gwirfoddolwyr.