Polisi Preifatrwydd

Pa wybodaeth ydym ni’n ei gasglu?

Mae prosiect ‘Canfod y Gân’ a chaiff ei drefnu gan Canolfan Gerdd William Mathias yn casglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o wybodaeth bersonol:

  • gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliad a’ch defnydd o’r wefan hon. (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math a fersiwn eich porwr gwe, system weithredu, o ba wefan cawsoch eich cyfeirio i’n gwefan, hyd yr ymweliad, tudalennau a welwyd, y modd llywiwyd y wefan);
  • gwybodaeth rydych chi’n eu darparu i ni ar gyfer y pwrpas o gofrestru gyda ni;
  • gwybodaeth rydych chi’n eu darparu i ni ar gyfer y pwrpas o danysgrifio i wasanaethau ein gwefan, hysbysiadau ebost a/neu gylchlythyrau;
  • unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n dewis ei hanfon i ni;

Cwcis

Mae cwci yn cynnwys gwybodaeth anfonwyd gan weinydd gwe i’ch porwr ac sy’n cael ei storio gan eich porwr. Mae’r wybodaeth yna’n cael ei hanfon yn ôl i’r gweinydd gwe pob tro mae’r porwr yn gwneud cais am dudalen gan y gweinydd gwe. Mae hyn yn galluogi’r gweinydd gwe i adnabod ac olrhain y porwr gwe.

Rydym ni’n defnyddio Google Analytics er mwyn dadansoddi’r defnydd a wneir o’r wefan hon. Mae Google Analytics yn cynhyrchu ystadegau a gwybodaeth arall am wefan drwy gyfrwng cwcis, sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Mae’r wybodaeth a gynhyrchwyd sy’n berthnasol i’n gwefan ni yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu adroddiadau am y defnydd a wneir o’r wefan. Bydd Google yn storio’r wybodaeth hwn. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yma: http://www.google.com/policies/privacy/.

Mae’r rhan helaethaf o borwyr gwe yn eich galluogi i wrthod pob cwci, tra mae porwyr gwe eraill yn eich galluogi i wrthod cwcis trydydd parti yn unig. Bydd blocio pob cwci, fodd bynnag, yn cael effaith negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau, gan gynnwys y wefan hon.

Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol

Bydd gwybodaeth bersonol sy’n cael ei gyflwyno i ni drwy’r wefan hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpas a nodwyd yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn mannau perthnasol o’r wefan.

Mae’n bosib y byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • gweinyddu’r wefan;
  • gwella eich profiad o bori drwy bersonoli’r wefan;
  • galluogi’ch defnydd o wasanaethau sydd ar gael ar y wefan;
  • gyrru hysbysiadau ebost rydych chi wedi rhoi gwybod i ni yr hoffech eu derbyn;

Lle byddwch chi’n darparu gwybodaeth bersonol ar gyfer ei gyhoeddi ar ein gwefan, fe fyddwn yn cyhoeddi ac yn defnyddio’r wybodaeth mewn modd arall yn unol â’r drwydded rydych chi’n eu caniatáu ar ein cyfer ni.

Ni fyddwn heb eich caniatâd yn darparu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti ar gyfer marchnata uniongyrchol.

Gwefannau Trydydd Parti

Mae’r wefan yn cynnwys dolennau i wefannau eraill. Nid ydym ni’n gyfrifol am bolisïau preifatrwydd neu ymarfer gwefannau trydydd parti.

Newidiadau Polisi

Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o dro i dro drwy bostio fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylech wirio’r dudalen hwn yn achlysurol er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.