Noddwyr a Phartneriaid

Canolfan Gerdd William Mathias

Bwriad Canolfan Gerdd William Mathias yw darparu hyfforddiant cerddorol a phrofiad perfformio o’r safon uchaf posib ac o statws cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn i’r boblogaeth yng Nghymru gael ymelwa o’r mwynhad a’r cyfranogiad o gerddoriaeth.

Enwir y Ganolfan ar ôl y cyfansoddwr William Mathias (1934-1992) a gafodd yrfa lewyrchus fel cyfansoddwr, arweinydd ac Athro Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Ef hefyd oedd sylfaenydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

I ddysgu mwy ymwelwch â www.cgwm.org.uk.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM), mewn partneriaeth â thîm Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd, wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân’ dros dair blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau dysgu ac unigolion sydd heb anableddau dysgu ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl, llesiant ac ymagwedd unigolion a’r gymuned ehangach at anabledd.

Bydd tri grwp yn cyfarfod bob pythefnos yn ardal Harlech, Pwllheli a Chaernarfon. Pob chwe mis, bydd y grwpiau yn perfformio’n gyhoeddus unai yn y gymuned neu mewn gwyliau cerddoriaeth lleol a/neu’n genedlaethol. Hoffem glywed gan gerddorion fyddai â diddordeb mewn arwain y grwpiau uchod yn rheolaidd yn ogystal â cherddorion fyddai yn gallu cynnal sesiynau arbenigol achlysurol. Bydd y grwpiau yn dilyn trywydd cerddorol yr aelodau. Rydym yn awyddus i ddarparu ystod eang o brofiadau cerddorol amrywiol a safonol i’r grwpiau, yn ogystal â cyfryngau a dulliau amrywiol.

Ysbryd 2012

Arianwyd gan Ysbryd 2012 rhwng 2018-2022.

Cronfa wedi ei hetifeddu o’r gemau Olympaidd yn Lludain yn 2012. Mae Spirit yn dyfarnu grantiau i weithgareddau celfyddydol, chwaraeon a gwirfoddoli cynhwysol mewn cymunedau sy’n dod a phobl at eu gilydd i wella llesiant. Sefydlwyd Spirit yn 2013 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol gyda gwaddol o £47 miliwn i barhau i ailgreu a chynnal yr ymdeimlad o falchder, brwdfrydedd, ac ymgysylltiad cymdeithasol a ysbrydolodd ein cymunedau ar hyd a lled Prydain yn ystod gemau Olympaidd Llundain 2012. Ariennir amrediad eang o brosiectau cenedlaethol a chymunedol gan Spirit 2012. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan www.spiritof2012.org.uk.

Mae Spirit yn ariannu prosiectau sy’n dod â phobl ynghyd – i ddysgu rhywbeth newydd, gwneud rhywbeth gwahanol, neu brofi rhywbeth unigryw – gan adael etifeddiaeth gymdeithasol o wella llês unigolion, a gadael cymunedau wedi eu hymgysylltu â’i gilydd.

Gwynedd Council

Cwmni Celyn

Mae Cwmni Celyn yn werthuswr allanol i brosiect Canfod y Gân. Bydd y cwmni yn cydweithio’n agos gyda’r aelodau, y gwirfoddolwyr a’r cerddorion er mwyn :

  • casglu tystiolaeth o effaith y prosiect,
  • ein helpu i rannu ein dysgu a’r hyn yr ydym wedi ddarganfod yn sgîl y prosiect.

Byddwn yn gwerthuso effaith y prosiect ar:

  • Lesiant
  • Iechyd meddwl
  • Ymagweddau tuag at anabledd
  • gynyddu’r gronfa o gerddorion sy’n cynnal sesiynau cerdd integredig yng Ngogledd Cymru

Am fwy o wybdoaeth am gwmni Celyn, ewch i  www.celyn.cymru