Cafodd criw Canfod y Gan ddiwrnod sbesial iawn ar yr 2il o Fedi 2022 yn nathliad swyddogol Canfod y Gan yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli.

Ar ôl 3 blynedd o redeg y prosiect, mi oedd hi’n hen bryd i ni ddathlu’r holl waith caled mae’r aelodau, tiwtoriaid a phawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect wedi ei roi i mewn i Canfod y Gan!

Cafodd pob grŵp gyfle i berfformio rhai o’u hoff caneuon i ni fel rhan o’r dathliad. Cawsom glywed amryw o gerddoriaeth wahanol yn amrywio o ganeuon adnabyddus fel ‘Ceidwad y Goleudy’ gan Bryn Fôn a ‘The Wonder of You’ gan Elvis Presley i rai o ganeuon gwreiddiol sydd wedi eu hysgrifennu gan aelodau Canfod y Gan megis ‘Can Adra’ a chafodd ei sgwennu gan griw Harlech a ‘Running Around in My Mind’ gan un o aelodau Criw Caernarfon.

Roedd yn gyfle gwych i ni allu dathlu’r holl dalent sydd i’w gweld yn sesiynau Canfod y Gan, ac roedd pawb o’r gynulleidfa i’w gweld wrth eu bodd gyda’r wledd o gerddoriaeth roedd y criwiau wedi eu paratoi!

Mi wnaethom orffen y perfformiadau i ffwrdd wrth i’r 3 grŵp ddod at ei gilydd i ganu can gwreiddiol o’r enw ‘Can Cadw’n Bositif’ – ond doedd yr hwyl ddim drosodd eto…

Er mawr syndod i’r holl aelodau daeth Dafydd Iwan yn cerdded mewn i’r ystafell, yn gafael yn ei gitâr, yn barod i orffen y perfformiad i ffwrdd wrth gyd ganu ‘Mam Wnaeth Got i Mi’ ac ‘Yma o Hyd’ gyda’r aelodau! 

Ar ôl y sioc hynny, ac ar ôl i bawb gael cyfle i dynnu llun gyda’r gwestai arbennig, cawsom ni de parti bach i ddathlu llwyddiant y digwyddiad, yn ogystal â dathlu llwyddiant y 3 mlynedd diwethaf o’r prosiect Canfod y Gan!

Diwrnod i’w gofio i bawb a gymerodd ran, dwi’n siŵr!