Nôl ym mis Ionawr ar ôl y sioc a ddaeth cyn y Nadolig ein bod mewn cyfnod clo arall. Roedd hi’n teimlo’n wahanol tro ma. Fyddai’n Nadolig yma ddim yr un fath, ac am ba hyd oedd y cyfnod clo yma yn mynd i bara? Roeddem ni gyd yn wynebu cyfnod digon ansicr eto. Wrth ddod nol at ein gilydd ar ôl y Nadolig, roedd hi’n bwysig iawn i ni gyd helpu’n gilydd. Dywedodd Terry, un o’n haelodau :

“Mae’n bwysig iawn i ni gyd gadw’n bositif a dal i fynd. Ma dod i Canfod yn helpu fi, a bod yn greadigol”

Gyda geiriau Terry yn ein hysbrydoli, dyma ddechrau holi pawb beth oedd pawb yn edrych mlaen i gael gwneud unwaith y byddai pethau’n gwella. Roedd pawb yn llawn syniadau.

Dyma rai o’n syniadau :

  • Gweithio yn Caffi Cei
  • Chwarae pêl droed yn Caernarfon efo Tony a Mark
  • Cael panad a chacan mewn caffi
  • Reidio beic a rhedeg yn bell
  • Nofio a teimlo’r dŵr
  • Mynd am drip i lan y môr a chael picnic efo pawb
  • Cael cwtsh go iawn yn well na cwtsh heb dwtsh
  • Cael mynd yn ôl i Canfod y Gân eto
  • Canu yn yr un ‘sdafell â pawb arall

Aeth y tri grwp ati i feddwl am negeseuon fyddai’n codi calon. Roedd ‘daw eto haul ar fryn’ yn neges bwysig iawn i bawb. Mae llawer o’n haelodau yn  mynychu Clwb Enfys hefyd drwy www.llwybraullesiant.cymru felly dyma benderfynu cydweithio gyda’r clwb er mwyn creu negeseuon positif a gwaith celf lliwgar i’w gynnwys yn ein fideo. Diolch i aelodau’r clwb am gyfrannu at ein fideo, roedd eich gwaith celf yn wych, mor bositif a lliwgar!

Aeth Elin, un o’n tiwtoriaid ati i roi syniadau pawb at ei gilydd. A dyna sut cawsom ni gân newydd ‘Cadw Ffydd’. Buom yn brysur wedyn yn recordio ein hunain yn cyd-chwarae gyda’n gilydd. Cawsom bob math o fideos o’r organ geg i glychau a’r glocenspiel a’r cello. Dystiodd Mared y llwch oddi ar ei ffliwt hefyd er mwyn cael perfformio hefo’r criw.

Mwynhewch ein cân!