Un o brif amcanion prosiect Canfod y Gân ydy ymgysylltu â’r gymuned a sicrhau cyfleoedd i oedolion gymryd rhan gyda’i gilydd, yn gyfartal drwy gerddoriaeth. Felly, roeddem yn ymfalchïo yn yr ymateb a gafwyd i’n gwahoddiadau i gymryd rhan yn ein cyngerdd gymunedol gyntaf ym Mhwllheli ar ddiwedd Tachwedd, 2019. Roeddem yn falch iawn o rannu llwyfan gyda :

Band Pres Pwllheli

Disgyblion Ysgol Bro Plennydd, fu’n rhan o brosiect arbennig ar y cyd gyda Uned Hafod Hedd a thrigolion o’r Ffor a fu’n cyd-ddysgu caneuon a gyfansoddwyd gan barti canu llwyddiannus o’r pentref yn y 1960au. Roedd y prosiect hwn yn gyfle i’r cenhedlaethau  gymdeithasu drwy gerddoriaeth. Cawsom gyfle i gael blas o’r caneuon hyn yn ein cyngerdd.

Côr Heneiddio’n Dda Nefyn

Côr yr Heli.

Cychwynwyd y gyngerdd yn fwrlwm prysur o fyrfyfyrio gwyllt :

Bu un o aelodau’r grwp, Mr Merfyn Jones, yn brysur yn dysgu alawon ar y delyn yn y sesiynau, a dyma’r penllanw, deuawd gyda Gwenan. Dyma foment bythgofiadwy i ni gyd :

Roedd hi’n noson fydd yn aros yn y cof am gyfnod hir. Dyma adrboth rhai yn y gynulleidfa :

“Really enjoyed the evening. Thank you to all who made if possible and worked so hard to make it happen.”

“Brilliant fun evening. Everyone leaving with big smiles!”

“Wonderful amount of work which produced Music of a high Standard.A project of huge benefit to those involved. Great to involve members of the wider community to celbrate the joy of Music.”

“The joy on the faces of all taking part was a wonderful sight.”

“PROFIAD GWYCH wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer hefyd.”

“This was the most joyful concert I’ve been to. The care and hard work of those who were organizing it was very evident. Well done!”

“I thought it was a fantastic evening and I think the whole project is a brilliant idea. The joy on the faces of the participants was a joy to behold. May it go from strength to strength.”

“Cyngherdd gwych a chyfle i bawb gymryd rhan. Aelodau Canfod y Gân yn amlwg wrth ei bodd a rhai yn canu a chwarae offerynnau. Mae hwn yn brofiad gwerthfawr iawn iawn.”

“EXCELLENT! GWYCH! Bringing people from ALL parts of the community together. 100% carry on!”

“Noson wych a bythgofiadwy. Mae angen mwy o nosweithiau fel hyn yn bendant.”

“Cyngherdd gwych. Braf cael rhannu llwyfan efo’r fath dalent. Edrch ymlaen at y nesaf.”

“Cyngerdd arbennig iawn. Holl eitemau yn wych. Ambell un yn mynd at y galon”