Cawsom brynhawn bendigedig yn neuadd Ysgol Ardudwy, ar Dachwedd 9fed, 2019. Paratowyd te prynhawn anhygoel gan ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 yr ysgol. Braf oedd gweld cymaint o gynulleidfa o’r dref. Cafwyd perfformiadau gan unigolion y grwp, yn amrywio o ganeuon Bryn Fôn i Pink Floyd ac Ed Sheeran hyd yn oed.  Cawsom berfformiad o Bach Toccata and Fugue gan un o’n haelodau, Debbie. Gwahoddwyd David Bieteker o Ysgol Ardudwy, i berfformio hefyd, braf oedd cael rhannu’r llwyfan. Cafwyd perfformiad ar y cello gan Elin Taylor, a gan Sera Zyborska a’r band. Cawsom gyfle i berfformio cân i’r grŵp gyfansoddi gyda Sera am bopeth ma’r grwp yn ei hoffi. Roedd hi mor braf cael dangos i gymuned Harlech popeth mae Canfod y Gân wedi bod yn gwneud ers i ni gychwyn. Edrych mlaen at y gyngerdd nesaf yn barod.

Dyma’r rai eitemau o’r gyngerdd i chi ei fwynhau :

Cafwyd adborth gwych o’r gyngerdd :

“Cyngerdd gwerth chweil! Wedi mwynhau! Diolch am y cyfle i gael gwrando a gwerthfawrogi doniau gwahanol pob un oedd yn cymryd rhan.”

“Cyngerdd ardderchog! Roedd yn amlwg fod pawb yn mwynhau cymryd rhan ar gerddoriaeth yn codi gwen ar ei gwynebau. Y gynulleidfa wedi mwynhau yn arw!”

“Prynhawn bendigedig!!! Adloniant gwych. Wedi llwyr fwynhau. Edrych ymlaen i’r gyngerdd nesaf. Diolch yn fawr!”

“Thanks for a feast of Music and for the opportunity for all individuals to show their unique talent in Music either instrumental or vocal.”

“Absolutely Fantastic!! Thoroughly enjoyed this afternoon. I was so impressed, and moved to (happy) tears at times!”

“It was fantastic!” Grace, 8 years old

“Absolutely fab, had tears in my eyes! Very important to become a main part of our community. Well done all involved!)

“Braf oedd cynnwys yr ysgol yn eich cyngerdd ac integreiddio’r gymuned. Rhagorol yn wir!”